Manylion a Disgrifiad y Llyfr | Book Details & Description
- ISBN: 9781845272265
- Awdur: J. Richard Williams
- Cyhoeddi Ebrill 2009
- Fformat: Clawr Meddal, 210x148 mm, 128 tudalen
Hanes a chrefft melinau gwynt Môn, a rhai melinau dŵr. Heddiw, y mae ym Môn yr unig felin wynt weithredol yng Nghymru a nifer o ffermydd melinau gwynt modern ac fel y felin wynt enwog, y maent hwythau â'u lle yn hanes ein hynys a'u rhan i'w chwarae yn ei dyfodol.
Bywgraffiad Awdur:
Brodor o Fôn yw J. Richard Williams, wedi ei eni a’i fagu ar yr ynys ac wedi treulio mwyafrif helaeth ei oes yn gweithio yma fel athro a phennaeth ysgol. Y mae yn grediniol fod cofnodi hanes lleol yr ynys yr un mor bwysig a chofnodi digwyddiadau hanesyddol y gorffennol.
Gwybodaeth Bellach:
‘I can think of few merrier spectacles than that of many windmills bickering together in a fresh breeze in a wooded country . . . ’ meddai Robert Louis Stevenson. Gallai’n hawdd fod wedi gweld y fath olygfa ym Môn yn ystod y bedwaredd ganrif ar bymtheg gan fod yma, bryd hynny, fwy o felinau nag yn unrhyw ran arall o Gymru. Bu yma felinau dŵr hefyd ac er i’r felin ddŵr a’r felin wynt, yn eu cyfnod, fod yn rhannol gyfrifol am ‘ein bara beunyddiol’, erbyn hyn y mae’r mwyafrif helaeth wedi diflannu ond cyn iddynt fynd yn angof llwyr rhaid cofnodi hanes eu gorffennol.
Heddiw, y mae ym Môn yr unig felin wynt weithredol yng Nghymru a nifer o ffermydd melinau gwynt modern ac fel y felin wynt enwog, y maent hwythau â’u lle yn hanes ein hynys a’u rhan i’w chwarae yn ei dyfodol.
Cyflwynir ym Melinau Môn hanes melina ar yr ynys gan obeithio y bydd y darllenydd yn cael ei ysgogi i ymweld â’r safleoedd ac ymchwilio’n ddyfnach fel bod yr agwedd hon o hanes lleol yr ynys yn cael ei amlygu a’i gadw ar gyfer y dyfodol.
