[neidio i'r prif gynnwys | skip to main content]

Mi Gana'-i Gān: Cerddi a Baledi

Manylion a Disgrifiad y Llyfr | Book Details & Description

  • ISBN: 9780863818202
  • Awdur: Gruffudd Parry
  • Cyhoeddi Rhagfyr 2003
  • Fformat: Clawr Meddal, 148x209 mm, 116 tudalen

Casgliad amrywiol o dros 70 o gerddi Gruffudd Parry, sef caneuon a baledi yn adlewyrchu golwg y bardd ar ddynoliaeth a chenedligrwydd drwy gyfrwng hiwmor a direidi, dychan a dwyster. 8 ffotograff du-a-gwyn.

Adolygiad Gwales
Bardd y bobl oedd Gruffydd Parry. Canai i ddigwyddiadau ac achlysuron cymdeithasol megis y gwnâi’r hen feirdd gwlad erstalwm. Y gwahaniaeth rhwng Gruffudd Parry a’r rhelyw o feirdd gwlad oedd bod graen a disgleirdeb ar ei fynegiant ef, a bod ei safon tipyn yn uwch hefyd. Ar dro, gall eich cyfareddu â’i gyffyrddiadau dychanol neu sydynrwydd ambell ansoddair prin, sydd yn ein hatgoffa o ganu R. Williams Parry.

I lawer ohonom, ef oedd awdur sgriptiau eneiniedig ‘Co Bach’ yn rhaglenni'r Noson Lawen slawer dydd, ac a anfarwolwyd gan ddehongliadau Dic Hughes. Bardd, ac nid cystadleuydd eisteddfodol yn canu i’w destun oedd Gruffydd Parry, ac eto ymgeisiodd am y goron yn Eisteddfod Genedlaethol Ystradgynlais yn 1954 gan ddod yn ail. Cawn yn ei gyfrol ddeg pennill chwe llinell o’i bryddest ‘Y Bannau’, cân oedd yn llawn addewid o’r awen fyrlymus y daethom i’w hadnabod am bron hanner canrif wedi hynny.

Ar ddechrau’i gyfrol Mi Gana’-i Gân ceir nifer o gerddi, rhai ohonynt yn dyddio o’r saith degau cynnar, sydd yn gyfoethog o ddelweddau ac yn grefftus iawn mewn mynegiant. Cerddi ydynt sydd yn profi dyfnder teimlad a chrebwyll eang y bardd.

Gellid dweud bod ei ddychan yn ymylu ar fod yn grafog – ac mae pob disgwyl iddo fod, ond cryfder dychan Gruffydd Parry yw mai ond braidd gyffwrdd â blaen y bluen a wna, a hynny’n effeithiol iawn. Mae’r gân ‘Ymateb i’r rheolau diweddar a ddaeth i’r capel’ yn enghraifft o brofiad oes y bardd fel crefyddwr yn gweld yr ochr eironig i’n sefyllfa:

‘Does ’na ddim llun Iesu Grist yn y festri,
A phlant bach bob lliw wrth ei draed.
Ond mae ’na flwch Cymorth Cyntaf
A chadachau at sychu gwaed.’

Ond yn sicr fe gofir am Gruffydd Parry fel un o faledwyr pennaf Cymru. Cyfansoddai faledi i ddathlu neu i ddychanu pob math o ddigwyddiadau yng Nghymru, yn enwedig os byddai rhyw agwedd wleidyddol i’r pwnc! Dwn i ddim a oedd Mr Parry yn ganwr ei hun, ond mi ofalodd bod un o gantorion baled gorau’r wlad yn eu canu, sef Harri Richards, Sarn. Bu hon yn ‘briodas’ lwyddiannus iawn rhwng bardd a chanwr.

Bellach, os nad yw Harri wrth law i ganu’r baledi, fe’u cewch yma mewn print, dwy ar hugain ohonynt, i’w darllen a’u mwynhau ac i gofio am ddigwyddiadau cyffrous yn hanner olaf y ganrif ddiwethaf.

Dyma gyfrol werthfawr, ac fel y dywedodd yr Athro Gwyn Thomas, ‘gadawodd le gwag iawn ar ei ôl’.

Vernon Jones