[neidio i'r prif gynnwys | skip to main content]

Migl a'r Diwrnod Pigog (Gwalch Balch: 6)

Manylion a Disgrifiad y Llyfr | Book Details & Description

  • ISBN: 9781845270438
  • Awdur: Margaret Ryan, David Melling
  • Cyhoeddi Mai 2006
  • Addaswyd/Cyfieithwyd gan Siân Lewis.
  • Addas i oed 7-9 neu Cyfnod Allweddol 2
  • Fformat: Clawr Meddal, 195x130 mm, 48 tudalen

Llyfr i gynorthwyo plant sy'n dechrau cael blas ar ddarllen ar eu pennau eu hunain. Addas i ddarllenwyr 7-9 oed.

Adolygiad Gwales
Dyma stori hyfryd gyda dilyniant da drwyddi. Ceir digon o ailadrodd sy'n magu hyder mewn darllenwyr bach ifanc. Mae'r llyfr yn ddelfrydol i'r plant hynny sydd wrthi'n meistroli'r sgiliau darllen am y tro cyntaf ac yn barod nawr i ddarllen stori gan eu bod wedi symud ymlaen o'r lefel gair a brawddeg. Mae hi'n stori fyddai'n denu bechgyn yn ogystal â merched.

Mae'r clawr yn ddeniadol a lliwgar; gresyn na fyddai mwy o liw ar y lluniau y tu mewn, ond mae'r cydbwysedd yn berffaith rhwng y gofod sy'n cael ei roi i'r lluniau ac i'r print ar bob tudalen. Hoffais y darnau sy'n odli ond byddwn wedi hoffi gweld 'I ffwrdd â thi' - mae angen treiglo ar ôl 'â'. Ceir defnydd da o atalnodi heb fynd dros ben llestri, ond nid wyf mor siŵr o'r gair swingio/swingiodd - teimlaf y byddai ‘siglo’ wedi bod yr un mor effeithiol.

Dyma stori o'r hyd delfrydol i blant bach i'w darllen, gan roi iddynt y teimlad hwnnw o foddhad campus wrth orffen llyfr.
Gaenor Watkins