Manylion a Disgrifiad y Llyfr | Book Details & Description
- ISBN: 9781845273002
- J. Richard Williams
- Cyhoeddi Gorffennaf 2011
- Fformat: Clawr Meddal, 210x148 mm
Disgrifiad Gwales
Mae cenedlaethau o drigolion Amlwch wedi byw yng nghysgod a dringo Mynydd Parys, Môn - a pha ryfedd felly ei fod yn lle agos at galon cynifer o Fonwysion. Ar un adeg dyma'r gwaith prysuraf a phwysicaf drwy Gymru gyfan a dyma'r unig safle lle darganfuwyd olion o gyfnod y Rhufeiniaid, yr Oesoedd Canol ac o gyfnod y Chwyldro Diwydiannol yn yr un fan.
Bywgraffiad Awdur:
Mae’r awdur wedi cyhoeddi dwy gyfrol yn y gyfres hon eisoes – 'O Fôn i Van Diemen’s Land' yn 2007 a 'Melinau Môn' yn 2009. Ers iddo ymddeol o fod yn bennaeth ysgol, mae J. Richard Williams wedi treulio llawer o’i amser yn annerch a darlithio i wahanol fudiadau a chymdeithasau ar agweddau o hanes Ynys Môn. Ei obaith yw fod hyn yn fodd o gadw cyfoeth hanesyddol yr ynys yn fyw i’r dyfodol. Gan fod bron i gant a phymtheg o flynyddoedd ers i gyfrol Owen Griffith am Fynydd Parys ymddangos, dyma ddilyniant teilwng iddi.
Gwybodaeth Bellach:
Yn y gloddfa fwyn hon y gweithiai Cadi Rondol a’r Hwntw Mawr, sy’n dal i gael eu cofio ar lafar gwlad yr ynys bron i dair canrif yn ddiweddarach. Heddiw, mae Mynydd Parys yn safle o Ddiddordeb Gwyddonol a Hanesyddol Neilltuol ac yn ôl yr awdur, ‘does yna, mewn gwirionedd, unlle tebyg iddo ar wyneb y ddaear!’
O grwydro llwybrau’r mynydd, mae atgofion ac adleisiau sŵn y gwaith i’w clywed gan gadw’n fyw y cof am y sawl fu’n gweithio yno a’u hymdrechion. Wedi’r darllen, ewch i grwydro’r llwybrau eich hunain – a phwy a ŵyr na fydd Cadi Rondol yno yn eich cyfarch!
