[neidio i'r prif gynnwys | skip to main content]

Nadolig yr Hen Deulu

Manylion a Disgrifiad y Llyfr | Book Details & Description

  • ISBN: 9781845274887
  • Rhiain M. Phillips
  • Cyhoeddi Tachwedd 2014
  • Fformat: Clawr Meddal
Casgliad o garolau Daniel Protheroe o America.

Cymro, cerddor a chyfansoddwr a ymfudodd i America yn 1886 oedd Daniel Protheroe. Ymysg ei ganeuon plant mae ‘Tu ôl i’r dorth mae’r blawd’, ‘Blodau’r Iesu’ a ‘Lili wen fach’.
Arferai gyfansoddi carolau a’u hargraffu ar gardiau Nadolig a anfonai at ei deulu yn ôl yng Nghymru rhwng 1907-33. Derbyniwyd y carolau canadwy hyn drwy law’r teulu a golygwyd y testunau gan Rhiain M. Phillips. Am y tro cyntaf felly, dyma nhw mewn print ar gyfer dathlu’r Nadolig dros gan mlynedd yn ddiweddarach.