Manylion a Disgrifiad y Llyfr | Book Details & Description
- ISBN: 9781845272401
- Meic Povey
- Cyhoeddi Awst 2010
- Fformat: Clawr Meddal, 215x138 mm, 260 tudalen
Hunangofiant yr actor Meic Povey. Cawn ei stori o'i blentyndod yn Eryri, drwy gyfnod ei brentisiaeth ym myd y theatr a byd sgwennu at ei 'ddeugain mlynedd' o gartrefu yng Nghaerdydd - man y mae yr un mor falch ohono â'i fro enedigol. Yn britho drwy'r cyfan, cawn gefndir rhai o'i ddramâu a'i sgriptiau a goleuni newydd ar rai ohonynt.
Gwybodaeth Bellach:
‘Cymru, aeth yn Saeson, ddaeth yn Gymry drachefn ydi fy nheulu i . . . ’
‘Dwi’n dal i gysidro fy hun yn “hogyn o Eryri”, ac nid yn “hogyn o Eifionydd” . . . ’
‘Wilbert Lloyd Roberts . . . fu’r dylanwad mwya ar fy ngyrfa broffesiynol . . . Wilbert agorodd y drws i mi . . . ’
‘Rhyfeddu at ei phrydferthwch a’i bywiogrwydd, ei rhywioldeb a’i ffraethineb . . . ’
Dydi hi ddim yn rhyfedd bod tudalennau’r hunangofiant hwn yn frith o frawddegau sy’n procio – mae’r awdur yn feistr ar fachu sylw ei gynulleidfa.
Yn britho drwy’r cyfan, cawn gefndir rhai o’i ddramâu a’i sgriptiau a goleuni newydd wrth ddyfynnu ohonynt. Mae drama yn stori Meic; mae stori’r ddrama yma hefyd. Mae Gwen – ei gariad, ei gymar a’i wraig am dri deg un o flynyddoedd – yn cael lle amlwg yn y gyfrol hefyd. Mae hwn yn ddathliad o fywyd y ddau ac yn gronicl o alar gãr ar ôl colli’r cariad hwnnw.
