Manylion a Disgrifiad y Llyfr | Book Details & Description
- Awdur: Dewi Tomos
- Fformat: Clawr meddal, 182 x 124mm, 96 tudalen
- Dyddiad Cyhoeddi: Medi 2007
Yn y gyfrol hon ceir detholiad o deithiau cerdded yn cychwyn o Gae’r Gors, Rhosgadfan – hen gartref Kate Roberts a gafodd ei adfer a’i droi’n ganolfan dreftadaeth yn ddiweddar.
Mae hon yn ardal hynod o ddifyr a diddorol ar gyfer ei chrwydro ar droed, yn cynnig amrywiaeth o dirwedd a sawl cip ar ein treftadaeth - o fyd natur, hanes pentrefol, olion chwareli i etifeddiaeth lenyddol.
Bydd cerdded bro Kate Roberts yn cyfoethogi profiadau ymwelwyr â Chae’r Gors.
‘Ym mh’le yn y byd y cawsoch chi’ch magu?’
‘Ar fynyddoedd Sir Gaernarfon yn y lle mwyaf bendigedig yn y byd.’
Gwybodaeth am yr awdur:
Mae Dewi Tomos yn enedigol o’r ardal, gyda phrofiad helaeth o arwain teithiau. Mae’n gadeirydd Cyfeillion Cae’r Gors. Dyma’i bumed gyfrol o deithiau cerdded a nifer o gyfrolau ar dreftadaeth gymdeithasol a diwydiannol yr ardal.
