[neidio i'r prif gynnwys | skip to main content]

O Lethrau Cefn Gwyn

Manylion a Disgrifiad y Llyfr | Book Details & Description

  • Awdur: Gwilym Lloyd Edwards
  • Fformat: Clawr meddal
  • Dyddiad Cyhoeddi: Hydref 2007

Hunangofiant sydd hefyd yn llyfr hanes lleol yn llawn manylion difyr am ardal Penllyn yw hwn.

Dyma sylwadau’r beirniaid pan anfonwyd y gyfrol hon i gystadleuaeth yn yr Eisteddfod Genedlaethol:

‘Cefn Gwyn, y geiriadurwr gwybodus o Benllyn sydd mor gadarn raenus ei Gymraeg.’
Yr Athro Hywel Teifi Edwards

‘Mae yma ysgrifennwr medrus, a hanes bywyd llawn a diwylliedig. Gall adrodd stori dda, hefyd, ac mae hanes cael y llyfr gan Bob Owen yn wych.’;
Meg Elis

‘Hunangofiant traddodiadol . . . un o’r goreuon o’i fath yn y gystadleuaeth. Mae’r iaith yn pefrio . . . Mae llawer yn ddifyr i’w ryfeddu . . . Heb amheuaeth, mae’r gyfrol yma’n haeddu gweld golau dydd.’
Robin Llywelyn

Gwybodaeth am yr awdur:

Mae Gwilym Lloyd Edwards yn frodor o blwyf Llangywer yn yr hen sir Feirionnydd. Graddiodd gydag Anrhydedd mewn Lladin (1954) a Chymraeg (1955), gan ennill gradd MA yn 1962. Penodwyd ef yn syth o’r coleg yn Olygydd Cynorthwyol ar staff Geiriadur Prifysgol Cymru, yn y Llyfrgell Genedlaethol, Aberystwyth, ac yno y bu nes ymddeol, yn is-olygydd, ddiwedd Rhagfyr 1987.

Bu’n cystadlu lawer tro yn yr Eisteddfod Genedlaethol gan ddod yn fuddugol ddengwaith ar gyfieithu a llunio casgliadau. Cyhoeddodd hefyd nifer o gyfrolau.