[neidio i'r prif gynnwys | skip to main content]

Pobol Arwyn Herald

Manylion a Disgrifiad y Llyfr | Book Details & Description

  • ISBN: 9781845273750
  • Arwyn Roberts
  • Cyhoeddi Tachwedd 2012
  • Fformat: Clawr Meddal, 260x200 mm

Yn dilyn llwyddiant ei gyfrol gyntaf o ffotograffau Drwy Lygad y Camera, ac o ganlyniad i lawer o swnian gan bobol ledled Cymru, dyma ail gyfrol o luniau Arwyn. Fel mae'r teitl yn ei awgrymu, y bobol ddifyr rheiny y daeth Arwyn ar eu traws yn rhinwedd ei swyddfel ffotograffydd i'r Caernarfon & Denbigh Herald a'r Herald Cymraeg, yw sêr y casgliad hwn.

Bywgraffiad Awdur:
Brodor o Rosgadfan ydy Arwyn Roberts, ac mae’n wyneb cyfarwydd yn eisteddfodau a gwyliau Cymru gyda’i gamera. Cafodd ei urddo i’r Orsedd er Anrhydedd yn 2005 dan yr enw barddol Arwyn Herald. Cyhoeddodd gyfrol am gau ffatri Friction Dynamics yng Nghaernarfon ar y cyd ag Ian Edwards a Trystan Pritchard yn 2006 a Drwy Lygad y Camera yn 2010.