[neidio i'r prif gynnwys | skip to main content]

Pwnc Llosg

Product Details

  • Awdur: Myfanwy Alexander
  • ISBN: 9781845275617
  • Cyhoeddi Ebrill 2016
  • Fformat: clawr meddal, 198x128mmm, 396 tudalen

Caiff corff Heulwen Breeze-Evans, ymgeisydd Plaid Cymru yn Etholiadau'r Cynulliad ei ddarganfod yn ei swyddfa yn y Trallwng, a thasg yr Arolygydd Daf Dafis yw ymchwilio i'w llofruddiaeth.  Mae Heulwen yn un o bileri'r gymuned, a byddai'n haws i Daf ddarganfod rhywun heb gymhelliad i'w lladd.

Bywgraffiad Awdur:

Magwyd Myfanwy Alexander yng Nghefn Coch yn Sir Drefaldwyn, ac ar ôl byw ym mhob cornel o Brydain dychwelodd i fagu chwech o ferched mewn tŷ to gwellt ger Llanfair Caereinion.  Fel sgwennwr a darlledwr mae wedi cyfrannu i sawl rhaglen radio a theledu, gan gynnwys nifer o raglenni comedi a dychan.  Enillodd wobr Sony am y gyfres gomedi 'The LL Files' i Radio Wales yn 1999.  Hi yw hanner tîm Cymru ar y Round Britain Quiz ar Radio 4.  Cyhoeddwyd ei nofer gyntaf, 'A Oes Heddwas?', yn 2015.