[neidio i'r prif gynnwys | skip to main content]

Rhagor o Enwau Adar (Cyfrol 66)

Manylion a Disgrifiad y Llyfr | Book Details & Description

  • ISBN: 9781845270704
  • Awdur: Dewi E. Lewis
  • Cyhoeddi Medi 2006
  • Fformat: Clawr Meddal, 208x147 mm, 79 tudalen

Adolygiad Gwales
Dywed Dewi Lewis bod cryn hollti plu wedi bod yn y byd adar ers i’w gyfrol gyntaf Enwau Adar ymddangos ym 1994, yng nghyfres ‘Llyfrau Llafar Gwlad’, gydag ailenwi rhai adar o fewn eu dosbarth gwyddonol, yn ogystal â nifer o ychwanegiadau i'r rhestr ‘genedlaethol’. Dim ond hollti blew fyddwn i felly petawn i’n awgrymu mai’r hyn sydd yma mewn gwirionedd ydi ail argraffiad o’r gyfrol wreiddiol gydag ychwanegiadau ac adolygiadau, yn hytrach na llyfr newydd. Prysuraf i ddweud nad dibrisio’r gyfrol newydd yw fy mwriad, canys dyma lyfr ddylai fod ar silff pob un sydd â diddordeb mewn adar, ac yn wir, mewn enwau a geiriau. Ac mewn tafodieithoedd hefyd, a hynny oherwydd bod ychwanegu’r ardaloedd lle casglodd yr awdur yr enwau lleol yn un o’r elfennau mwyaf difyr o’r ymchwil drylwyr a gyflwynir rhwng dau glawr, ac yn ychwanegiad gwerthfawr i’w ymchwil wreiddiol.

Wedi rhagair byr, cawn restr yn gyntaf o bob enw Cymraeg a gasglodd, gyda’i enw gwyddonol, ac yna’r enw cyffredin yn y Saesneg. Yn briodol iawn, Gwasg Carreg Gwalch yw cyhoeddwyr y llyfr, ac mae’r rhestr yma’n cofnodi tri ar ddeg o enwau Cymraeg ar gyfer amrywiol weilch, o’r anghyfarwydd (gwalch y nos, enw addas iawn o Aberdaron ar gyfer y troellwr mawr, neu’r ‘nightjar’), i’r poblogaidd (gwalch y pysgod, sydd wedi denu cymaint o adarwyr yn ddiweddar at filltir sgwâr yr awdur). Hefyd ymysg y gweilch, ceir adar nad ydynt yn ysglyfaethus, gan gynnwys un sy’n destun cwestiwn cwis tafarn o dro i dro, sef Puffinus puffinus, i roi ei enw Lladin. Yn groes i ymateb cyntaf nifer, nid y pâl neu’r puffin ydyw, ond aderyn drycin Manaw, aderyn sydd ond yn dod i’r tir i nythu, a’r enw gwalch y mecryll a ddenodd fy sylw. Hyfryd iawn. Galwch fi’n anorac os mynnwch, ond i mi, mae’r llyfr yn llawn o berlau bach fel hyn.

Mae’r rhestr gyntaf felly, yn gyfeiriadur defnyddiol i ganfod enw safonol adar os taw enw llafar neu leol sydd gennych, ond yn yr ail restr mae’r glo mân, a hon yn fy marn i sy’n gwneud y gyfrol yn werth pob ceiniog o bum punt namyn pum ceiniog.

Rhestrir enwau Saesneg yn nhrefn yr wyddor, gyda’r enw safonol Cymraeg a’r Lladin eto, ond wedyn ceir y casgliad o enwau lleol ar gyfer pob un. Pob un, hynny ydi, heblaw am y dieithriaid i dir Cymru fach, fel tinwen y diffeithwch!

Os ydi’r rygarŷg bellach yn brin eithriadol, nid felly’r nifer o enwau a geir trwy Gymru amdani; tri deg a phump ohonynt, o Sir y Fflint i Sir Fôn, ac o Fangor i Faldwyn, ac mae Dewi Lewis yn chwilio am fwy. Ceir apêl ganddo ar ddiwedd ei ragair, am i ddarllenwyr yrru rhagor o enwau ato, ond cawn hefyd ddeall ei fod wrthi’n paratoi Llawlyfr ar Enwau Adar i ‘adrodd y stori tu ôl i’r enwau’.

Hen dro inni golli’r lluniau a’r darluniau arbennig a ymddangosodd yng nghyfrol 1994, ac nid oes eto eglurhad o ystyr y seren a geir ar gyfer ambell i enw, ond dyma fi’n hollti blew eto. Dyma drysor o lyfr, i eistedd ochr yn ochr â chyfrolau enwau Cymdeithas Edward Llwyd a Llyfr Adar Iolo Williams, a thamaid blasus i aros nes y gwêl y Llawlyfr olau dydd.

Paul Williams