[neidio i'r prif gynnwys | skip to main content]

Rhwng Dau Glawdd

Product Details

Rhwng Dau Glawdd ISBN: 9781845276041 Tom Jones Cyhoeddi Mai 2017 Fformat: Clawr Meddal, 215x138 mm, 180 tudalen Dyddiadur yr amaethwr Tom Jones, Plascoch, Dolanog, yn ystod y flwyddyn 2015, yn cynnwys sylwadau a hanesion difyr un sy'n gwasanaethu ar nifer o gyrff cefn gwlad yng Nghymru ac Ewrop. 70 o ffotograffau lliw. Gwybodaeth Bellach: Rhwng cloddiau'r gyfrol hon cawn fynediad i gefn gwlad Cymru heddiw. Wrth i'r proflenni olaf ddod i'w ddwylo, mae Tom Jones, Plascoch, Dolanog yn anterth y tymor wyna ac yng nghanol llu o gynlluniau eraill i sicrhau llewyrch a pharhad i gymdeithas wledig Maldwyn a Chymru. Yn y gyfrol hon hefyd cawn werthfawrogi'r cyfoeth Ewropeaidd ac nid cyfoeth materol yn unig ydi hwnnw. Wrth gael cip dros ysgwydd ar ddyddiadur blwyddyn yr awdur, gwelwn y gwahanol linynnau sydd wedi gweu drwy'i gilydd yn ei fywyd gwaith y fferm deuluol, ei ddyletswyddau fel aelod o'r Pwyllgor Economaidd a Chymdeithasol Ewropeaidd a'i gefnogaeth i fyrdd o gymdeithasau a sefydliadau busnes, diwylliannol a lleol. Enillodd cnewyllyn y gwaith hwn goron Eisteddfod Powys a gynhaliwyd yng Nghroesoswallt yn 2016, a dyma drydedd gyfrol Tom Jones, yn dilyn cyhoeddi Brain yn y Brwyn (1976) a Dyddiadur Ffarmwr (1986). 'Cameos gwerthfawr o fywyd cefn gwlad a llygad treiddgar ar faterion rhyngwladol.' Aled Lewis Evans