Manylion a Disgrifiad y Llyfr | Book Details & Description
- ISBN: 9781845273064
- Cindy Jefferies, Seb Goffe
- Cyhoeddi Mai 2011
- Addaswyd/Cyfieithwyd gan Gordon Jones.
- Addas i oed 9-11+ neu Cyfnod Allweddol 2/3
- Fformat: Clawr Meddal, 196x128 mm, 144 tudalen
Mae Marek am fod yn sgoriwr goliau enwog, ond aiff popeth o chwith pan mae'n gorfod chwarae yn y gôl i dîm Tŷ Charlton. Yn waeth na hynny, mae'r hyfforddwr am iddo droi o fod yn ymosodwr i fod yn gôl-geidwad! Beth fydd ei deulu'n meddwl o hynny? Sgorio goliau mae o am wneud, nid eu harbed.
Gwybodaeth Bellach:
Dyma ymgais y Gwasg Carreg Gwalch i lenwi bwlch yn y farchnad am nofelau gafaelgar ar bêl-droed. Ysgrifennwyd y gwreiddiol gan Cindy Jefferies, awdur ardderchog cyfres Gweld Sêr, ar y cyd â’i mab, sy’n gwirioni ar bêl-droed. Mae’r straeon yn y gyfres yn rhai gafaelgar a ddylai apelio at fechgyn a merched.
