[neidio i'r prif gynnwys | skip to main content]

Rhwyg, Y

Manylion a Disgrifiad y Llyfr | Book Details & Description

  • ISBN: 9781845274603
  • Awdur: Gerwyn James
  • Cyhoeddi Mehefin 2013 
  • Fformat: Clawr Meddal, 215x138 mm
Cyflafan a ysgydwodd y byd yn grwn i'w seiliau oedd y Rhyfel Mawr, 1914-18. Aeth ymerodraethau mawr y byd benben â'i gilydd ac erbyn i'r ergyd olaf gael ei thanio, roedd miliynau o filwyr, morwyr a sifiliaid wedi'u lladd, a bywydau miliynau o wragedd, rhieni a phlant wedi'u chwalu.

Yn wyneb y fath ddinistr aruthrol o eang, mae’n hawdd edrych dros ben dioddefaint a cholledion plwyf bychan mewn gwlad fechan. Bwriad y gyfrol hon yw adrodd stori’r rhyfel yng nghyd-destun un gymuned fechan ym Môn, a chanolbwyntio ar effaith leol rhwyg y rhyfel byd.