[neidio i'r prif gynnwys | skip to main content]

Rhyfelwr Rygbi

Product Details

  • ISBN: 9781845275860
  • Gerard Siggins
  • Cyhoeddi Ebrill 2017
  • Fformat: Clawr Meddal, 198x130 mm
Yr ail yn y gyfres rygbi am Owain yn ei ysgol newydd. Yn gapten ar y tîm dan 14 oed, rhaid iddo geisio pontio'r tyndra rhwng dau chwaraewr sy'n brwydro am safle'r mewnwr. Yn ychwanegol, mae ei waith ymchwil ar brosiect am aelod o'r tîm rygbi cenedlaethol a fu farw yn y Rhyfel Byd Cyntaf yn dwyn ysbryd o'r gorffennol yn agos iawn. Llyfr llawn cyffro am dymor i'w gofio!

Gwybodaeth Bellach: Yn ei ysgol newydd, mae gan Owain Madden gyfrifoldebau newydd. Ef bellach yw capten y tîm dan 14 ac mae’n rhaid iddo bontio’r tyndra sy’n codi rhwng ei ffrind Rory a Dylan, y bachgen newydd, wrth iddynt frwydro am safle mewnwr y tîm. Ac oddi ar y cae, mae gan Owain lond ei ddwylo. Mae wedi dechrau ar brosiect am aelod o’r tîm rygbi cenedlaethol a fu farw yn y Rhyfel Byd Cyntaf. Daw hanes yn fyw wrth i hen lyfr ddod ag Owain yn nes at y chwaraewr chwedlonol nag y gwnaeth erioed ddychmygu. ‘Gwledd.’ – Irish Times ‘... mae’r stori’n llifo, mae’n rhwydd i’w ddarllen.’ – NewsFour ‘… fy hoff lyfr … mae gan y llyfr hwn bopeth – hanes, dirgelwch, chwaraeon – mae’r cyfan wedi’i blethu drwy’i gilydd … llyfr anhygoel!’ – Elev8 ar RTE2