[neidio i'r prif gynnwys | skip to main content]

Senghennydd (Llyfrau Llafar Gwlad 83)

Manylion a Disgrifiad y Llyfr | Book Details & Description

  • ISBN: 9781845274290
  • Cyhoeddi Gorffennaf 2013 
  • Golygwyd gan Myrddin ap Dafydd
  • Fformat: Clawr Meddal
Mae ambell enw lle sy'n creu tawelwch dim ond wrth ei ynganu - un o'r rheiny yw Senghennydd. Yn Hydref 1913, ysgydwyd y cwm gan ffrwydriad yng nglofa'r Universal, ac ysgydwyd aelwydydd yr ardal pan gollwyd cyfanswm o 440 o fywydau yn dilyn effeithiau'r danchwa. Yn y gyfrol hon, cawn stori'r drychineb drwy gyfrwng toriadau o'r wasg Gymraeg ar y pryd.