[neidio i'r prif gynnwys | skip to main content]

Sir Ddinbych (Cyfres Broydd Cymru: 12)

Manylion a Disgrifiad y Llyfr | Book Details & Description

  • ISBN: 9780863816932
  • Awdur: E. Gwynn Matthews
  • Cyhoeddi Gorffennaf 2001
  • Fformat: Clawr Meddal, A5, 108 tudalen

Cyfeirlyfr diddorol a defnyddiol i gyfoeth ac amrywiaeth Sir Ddinbych, cartref Eisteddfod Genedlaethol Cymru 2001, yn cynnwys gwybodaeth am hanes a diwylliant, byd natur a diwydiant, llenyddiaeth a chrefydd, adeiladau a chymeriadau nodedig y fro, ynghyd â manylion am atyniadau hamdden. 31 ffotograff du-a-gwyn a 4 map.

Adolygiad Gwales
Yn ddi-os, mae ymweliad Eisteddfod yr Urdd neu’r Genedlaethol yn gadael ei ôl ar fro, ac yn sicr bydd Dinbych a’r cyffiniau wedi elwa’n fawr oddi wrth ymweliad Eisteddfod Genedlaethol 2001. Yn un peth, bu’r Ŵyl yn fodd i’r llyfr difyr hwn ar Sir Ddinbych - cyfrol arall yn y gyfres ar froydd Cymru - weld golau dydd. Ynddi, y mae’r hanesydd E. Gwynn Matthews, o Lanrhaeadr-yng-Nghinmeirch ger Dinbych, wedi llwyddo i roi darlun llawn a diddorol o hanes y sir.

Ni chafodd y llyfr ei fwriadu ar gyfer ysgolheigion, ond yn hytrach ar gyfer y darllenydd cyffredin. Y mae’r gyfrol wedi’i rhannu’n dwt yn adrannau gydag is-benawdau clir. Yn dilyn crynodeb o ddaearyddiaeth y sir, ceir adran yn disgrifio hanes cynnar y fro, ac un ffaith ddiddorol a nodir yw mai yn Ogof Bontnewydd - yng nghyffiniau Cefnmeiriadog ger Llanelwy - y daethpwyd o hyd i’r olion hynaf o bresenoldeb dyn yng Nghymru. Diddorol hefyd yw’r adran sy’n olrhain hanes hen adeiladau’r fro, yn cynnwys cestyll, ffynhonnau a chroesau, abatai a’r Gadeirlan, a phlastai Dyffryn Clwyd.

Yn yr adran ar ‘Chwedlau a Bucheddau Saint’, adroddir storïau difyr megis hanes y drafferth a gafwyd wrth godi Eglwys Llangar ger Corwen. Telir sylw manwl i drefi a phentrefi’r sir, a chawn ein rhyfeddu gan y nifer o enwogion y gall y fro ymhyfrydu yn eu llwyddiant. ‘Pobl ddŵad’ oedd nifer ohonynt, wrth gwrs, a sylwir bod llawer o enwogion tref Dinbych ei hun wedi dod yno i weithio i Wasg Gee – pobl megis T. Gwynn Jones, Kate Roberts, Mathonwy Hughes a Gwilym R. Jones.

Yng nghanol y gyfrol ceir nifer helaeth o luniau diddorol sy’n ychwanegu llawer at apêl y llyfr. Daw’r gyfrol i ben gyda chrynhoad o hanes presennol y sir, a da gweld bod Sir Ddinbych yn parhau i gyfrannu’n sylweddol at y diwylliant Cymraeg a Chymreig.

Wedi darllen y gyfrol hon, bydd nifer o drigolion Bro’r Eisteddfod, fel minnau, yn siŵr o sylweddoli cyn lleied a wyddant am eu hardal eu hunain, ac yn ysu am ymweld â nifer o’r lleoedd y cyfeirir atynt. Yn ogystal, bydd y Cymry o'r tu allan i’r sir yn rhyfeddu at gyfoeth hanes ein bro ac yn sicr o fod eisiau dysgu mwy trwy ailddarllen y llyfr a thrwy ymweld â’r sir odidog hon. Nid llyfr i’w ddarllen unwaith a’i roi ar y silff i hel llwch mo hwn, ond cyfrol i gyfeirio ati dro ar ôl tro.

Eirlys Jones