Manylion a Disgrifiad y Llyfr | Book Details & Description
- Cyhoeddi Medi 2008
- Golygwyd gan Gordon Jones
- Addas i oed 9-11 neu Cyfnod Allweddol 2
- Fformat: Clawr Meddal, 72 tudalen
Casgliad cynnes o naw stori amrywiol wedi eu darlunio'n chwaethus gan naw awdur a phedwar darlunydd i'w darllen i blant cyn iddynt fynd i gysgu; i blant 3-7 oed. Dilyniant i Stori Cyn Cysgu a gyhoeddwyd yn 2005.
Gwybodaeth Bellach:
Dyma naw stori o straeon swynol newydd sbon i'w darllen yn uchel a'u rhannu â phlant. Maen nhw’n llawn cymeriadau sy'n apelio at ddychymyg plant ac yn cynnig cysur amser gwely – neu ar unrhyw adeg hwylus.
Pa stori gawn ni gyntaf?
...Stori am y Bincis Duon, y tylwyth teg nad oes neb wedi clywed amdanynt o'r blaen
... am Pedro'r ci bach yn cael ei ddychryn gan y balwnau yn y parc
... am Casi a Celt yn chwarae yn eu cwpwrdd dillad ac yn anghofio tacluso eu llofft
... Bili sy’n byw a bod yn ei hoff straeon
... am Caleb a'r afal mawr coch olaf ar y goeden?
Neu beth am stori'r geifr bach gwirion sy'n tynnu pob math o drybini am eu pennau
... neu honno am y corach bach oedd yn ceisio paratoi parti croeso i'r wiwerod
... am Wili-Wyn, y llygoden fach wen a'r gyfrinach fawr
... am Cadi Fflur, sy'n ceisio dal y dylwythen deg sy'n dod i gasglu dannedd?
Straeon gan: Caryl Lewis, Bethan Gwanas, Angharad Tomos, Myrddin ap Dafydd, Beca Brown, Haf Llewelyn, Elin Meek, Mari Gwilym, Helen Emanuel Davies.
Lluniau gan Graham Howells, Angela Morris, Gill Roberts, Eric Heyman
