[neidio i'r prif gynnwys | skip to main content]

Straeon Nadolig y Plant

Manylion a Disgrifiad y Llyfr | Book Details & Description

  • ISBN: 9781845275013
  • Amrywiol
  • Cyhoeddi Hydref 2015
  • Darluniwyd gan Morgan Tomos
  • Fformat: clawr meddal, 195x130mm, 64 tudalen

Yn 2014, cynhaliodd Radio Cymru gystadleuaeth Stori Nadolig Fer i ysgolion cynradd a chael actorion i berfformio'r rhai buddugol ar raglen Siân Cothi, Bore Cothi.  Daeth dros 250 o straeon i law!  Detholwyd 74 o'r goreuon i'w hanfon at dri beirniad, Bethan Gwanas, Anni Llŷn a Bedwyr Rees ac roedd pawb wedi gwirioni bod y safon mor uchel.