Manylion a Disgrifiad y Llyfr | Book Details & Description
- Awdur: Brian Friel
- ISBN: 9781845273583
- Cyhoeddi Hydref 2011
- Addaswyd/Cyfieithwyd gan Elan Closs Stephens
- Fformat: Clawr Meddal, 182x124 mm
Disgrifiad Gwales
Mae Brian Friel yn un o ddramodwyr cyfoes pwysicaf Iwerddon. Cyfansoddodd gorff cyfoethog o ddramâu, gan gynnwys hon Translations, a berfformiwyd yn gyntaf yn 1980. Perfformiwyd y cyfieithiad Cymraeg hwn o waith Elan Closs Stephens gan Theatr Cymru yn Theatr Gwynedd, Bangor ar 29 Medi, 1982 dan gyfarwyddyd Emily Davies.
Gwybodaeth Bellach:
Mae Brian Friel yn un o ddramodwyr cyfoes pwysicaf Iwerddon. Cyfansoddodd gorff cyfoethog o ddramâu, gan gynnwys hon Translations, a berfformiwyd yn gyntaf yn 1980.
Symbylwyd yr awdur i sgrifennu’r ddrama wedi darganfod mai yn ardal Muff y gwnaed y mapiau cyntaf o Iwerddon gan yr Ordnance Survey. Y rhwyg a ddigwyddodd i’r gymdeithas Gatholig Wyddeleg yn sgil gweithred o’r fath a’r effaith arni sydd yn Translations, ac ynddi, gyda chyfuniad celfydd o hiwmor a thosturi, dengys sut y gall iaith fod yn rhwystr dieithr ac ar yr un pryd yn gymod cadarn.
Enillodd Translations Wobr Goffa Ewart-Biggs am 1981 yn ogystal â’i dyfarnu yn ddrama newydd orau 1981 gan y cylchgrawn Drama a Plays and Players; enillodd hefyd yr Harvey Award.
Perfformiwyd y cyfieithiad Cymraeg hwn o waith Elan Closs Stephens gan Theatr Cymru yn Theatr Gwynedd, Bangor ar 29 Medi, 1982 dan gyfarwyddyd Emily Davies.
