Manylion a Disgrifiad y Llyfr | Book Details & Description
- Awdur: Gareth William Jones
- Cyhoeddi Tachwedd 2005
- Addas i oed 9-11+ neu Cyfnod Allweddol 2
- Fformat: Clawr Meddal
Nofel arall yn y gyfres am bâr o efeilliaid sydd wrth eu bodd yn chwarae rygbi. Addas i ddarllenwyr 10-13 oed.
Adolygiad Gwales
Mae’n siŵr y bydd croeso mawr i hon, y bedwaredd gyfrol yn y gyfres Mewnwr a Maswr am y ddau frawd, Llŷr a Llion, a’r tîm rygbi Cenawon Nant Cadno.
Unwaith eto, llwydda’r awdur i fachu’r darllenydd o’r dechrau’n deg, gan ei daflu i ganol gêm rygbi a’i lusgo wedyn gerfydd coler ei grys drwy nifer o anturiaethau bywiog a chredadwy. Nid oes llacio wrth adrodd y stori a chawn gymysgedd grefftus o siom ac ofn, rhyddhad a llawenydd. Dyfnheir ein hadnabyddiaeth o Llŷr, y prif gymeriad, heb golli cysylltiad chwaith â gweddill y tîm rygbi a’u cwmnïaeth gyfeillgar a drygionus. Mae’r cynnwys i gyd yn sicr o apelio at fechgyn Blynyddoedd 5–7 ac mae’r iaith yn gyfoethog heb fod y tu hwnt i’w cyrraedd.
Ychydig o ffuglen Gymraeg sydd wedi’i hanelu’n benodol at y gynulleidfa hon, felly mae hon yn gyfres allweddol o ran cadw’r darllenwyr pwysig hyn pan fydd llyfrau Saesneg yn denu. Un gŵyn yn unig a gafwyd gan ddarllenydd Blwyddyn 6 a gafodd flas enfawr ar y gyfrol: ‘Oedd rhaid i’r stori orffen mor glou?’ Felly’r tro nesaf, gobeithio y caiff Gareth William Jones a’i allu diamau i greu stori dda gomisiwn i ysgrifennu nofel drwchus: os gall bechgyn yr oedran yma ddarllen nofelau hirfaith Saesneg J. K. Rowling, dylai fod darpariaeth debyg iddynt yn Gymraeg hefyd.
Elin Meek
