[neidio i'r prif gynnwys | skip to main content]

Troseddau Hynod 2

Ar Sêl! | On Sale!

Prîs | Price: £1.00

Prīs Gwreiddiol | R.R.P. £6.50






Ychwanegu i fy Rhestr Fer
Add to My Wish List

Manylion a Disgrifiad y Llyfr | Book Details & Description

  • ISBN: 9780863819346
  • Awdur: Roy Davies
  • Cyhoeddi Tachwedd 2004
  • Golygwyd gan Lyn Ebenezer
  • Fformat: Clawr Meddal, 184 x 123 mm, 232 tudalen

Ail gasgliad hynod ddiddorol o hanesion am 50 o lofruddiaethau a marwolaethau amheus yng Nghymru, 1776-1988, yn cael eu hadrodd yn ddifyr gan gyn-Uwch-Arolygydd gyda Heddlu De Cymru.

Adolygiad Gwales
Mae bod yn gyn-blismon yn rhoi credinedd i awdur sy’n mentro i’r byd gwaedlyd hwn, yn enwedig pan fo’r plismon hwnnw wedi bod yn Ddirprwy Bennaeth y Regional Crime Squad yng Nghymru. Ers blynyddoedd bellach mae Roy Davies wedi gwneud defnydd llenyddol o’i brofiad, ei arbenigedd a’i ddawn sgwennu. Yn y broses enillodd ei blwyf fel awdur llofruddiaeth o bwys yn y maes ffeithiol.

Chwaer gyfrol a dilyniant i’w gyfrol lwyddiannus Troseddau Hynod yw hon. Gellir proffwydo’n eithaf diogel y bydd pawb a gafodd flas ar y gyntaf yn mwynhau hon hefyd.

Wrth ddewis a dethol ei oriel ddiweddaraf o ddihirod a’u dioddefwyr, mae Roy Davies yn bwrw ei rwyd dros bob cwr o Gymru, o Fôn i Fynwy yn llythrennol. Yn bersonol, yr hanesion a apeliodd fwyaf ata i oedd y rheini a leolwyd yn nociau Caerdydd a’r Cymoedd ar ddechrau’r ugeinfed ganrif pan oedd De Cymru’n fwrlwm o brysurdeb. Denwyd pobol yno o bedwar ban byd i weithio ac i ofera, i garu a chasáu, i ladd ac i gael eu lladd.

Weithiau mae’r mewnfudwyr yn lladd ei gilydd, fel yn achos Thomas Caler o Zanzibar, Tanzania a grogwyd yng ngharchar Caerdydd am lofruddio mam a’i phlentyn yn ardal y Dociau ar drothwy Nadolig 1919. Os ydych chi eisiau enghraifft o arddull Roy Evans, darllenwch baragraff agoriadol yr hanes: “Pan ganfuwyd cyrff Gladys Ibrahim a’i baban bach, Ayesha, yn gorwedd ar lawr y gegin, roedd y ddwy wedi eu huno gan angau. Gorweddai’r fechan ar fraich ei mam mewn cofleidiad olaf. Roedd gyddfau’r ddwy wedi’u torri, a’r llawr yn llyn o waed.”

Droeon eraill, lladd y brodorion mae’r mewnfudwyr yn ei wneud, fel yn achos Lester Augustus Hamilton (onid yw’r enwau’n hyfryd o egsotig!), morwr o Jamaica. Llofruddiodd ei gariad wen 17 oed, Doris Appleton, yn Stryd y Bute ym 1921. Credid bod Doris, fel ei mam, Rose, yn butain. Prun bynnag, anghymeradwyai Rose y berthynas rhwng Doris a dyn du. Ond yr hyn sy’n hynod ddiddorol yw bod cydymdeimlad trigolion y Dociau efo Lester Augustus Hamilton. Datgela’r awdur bod y dorf, ar ddiwrnod angladd Doris, wrth i Rose a’i theulu ddod allan o’r fynwent, “wedi ymgynnull i hisian a gweiddi. Teimlai llawer i’r teulu gyfrannu at y trychineb drwy eu bywyd anfoesol”! Felly, yn groes i’r ddelwedd arferol o’r Dociau, mae’n ymddangos nad oedd fawr o wahaniaeth rhwng gwerthoedd moesol gwerin barchus Stryd y Bute a gwerthoedd moesol gwerin barchus y Gymru wledig.

Fel yr awgrymais eisoes, mae nifer o lofruddion y gyfrol yn dramorwyr. Ond peidied neb â thybio nad yw Cymru hefyd wedi cynhyrchu dihirod. Gyda’r gwaethaf yn y gyfrol yw William Emmanuel o Fynydd Penbre ger Llanelli. Lleidr defaid oedd Wil, a dyn a gurai ei wraig yn rheolaidd. Pan ddaru cymdoges fygwth adrodd wrth ynad lleol am greulondeb Wil at ei wraig, fe lofruddiodd Wil y gymdoges drwy ei “chicio’n fwystfilaidd” a dryllio'i phenglog. Ar Fedi 29, 1776 fe’i crogwyd yng Nghaerfyrddin, ac yna “cludwyd ei gorff a’i sibedu ar Fynydd Penbre” Roedd “sibedu” yn air dieithr i mi. Gadewch i’r awdur esbonio: “Ar groesffordd heolydd Trimsaran i Lanelli a Phum Heol i Benbre diosgwyd Wil o’i ddillad a’i glymu wrth bostyn â chadwyni. Gadawyd ef yno yn ddigon hir (pedwar diwrnod) i’r cigfrain gwblhau’r gwaith o ddifetha ei gorff.”

I bwrpas adolygu bu’n rhaid i mi ddarllen y gyfrol ar garlam mewn rhyw dri eisteddiad. Tuedda hynny i roi dos ormodol o waed i ddyn! Rydw i’n eich cynghori i’w darllen fesul tipyn, rhyw bennod neu ddwy ar y tro. Nid cyfrol o angenrheidrwydd i’w darllen o’i chwr yw hon ond un i bicio i mewn ac allan ohoni.

Vaughan Hughes