[neidio i'r prif gynnwys | skip to main content]

Tuchan o Flaen Duw

Manylion a Disgrifiad y Llyfr | Book Details & Description

  • ISBN: 9781845274061
  • Aled Jones Williams
  • Cyhoeddi Gorffennaf 2012
  • Fformat: Clawr Meddal, 215x138 mm

Huangofiant y llenor a'r dramodydd Aled Jones Williams. Yn ôl yr awdur, dwy bennod o hunangofiant a geir yma sef alcoholiaeth a Duw. Daw'r teitl o waith Morgan Llwyd, Gwaedd yng Nghymru yn Wyneb Pob Cydwybod.

Dwy Bennod o Hunangofiant
Math ar gelwydd yn y bôn, wrth gwrs yw pob hunangofiant. Nid yn fwriadol efallai – er ein bod yn wastad yn chwarae triciau â ni ein hunain – ond drwy ddewis rhai pethau ar draul pethau eraill, mae unrhyw hunangofianydd yn sensro ei fywyd ei hun. Dywedir un stori yn hytrach na stori arall. Penderfynais ‘ddewis’ dau beth: alcoholiaeth a Duw. Dewisais hepgor bethau eraill – y pethau pwysicaf mae’n debyg. Pendronais yn hir cyn ysgrifennu dim heb sôn am ei gyhoeddi.

Mae Morgan Llwyd yn bwysig i mi. Fel ag yr wyf wedi ei wneud ddeudro o’r blaen, dyfyniad o’i waith sy’n rhoi’r teitl: ‘Ac oni fedri weddïo, cais duchan o flaen Duw, ond gad ymaith dy lyfr gweddi oddi allan.’

Allan o Gwaedd yng Nghymru yn Wyneb Pob Cydwybod, Morgan Llwyd
Aled Jones Williams