Manylion a Disgrifiad y Llyfr | Book Details & Description
- ISBN: 9781845272586
- Awdur: Clement C. Moore
- Cyhoeddi Medi 2009
- Darluniwyd gan Ted Rand
- Addaswyd/Cyfieithwyd gan Myrddin ap Dafydd
- Addas i oed 0-7 neu Cyfnod Allweddol 1
- Fformat: Clawr Meddal
Addasiad Cymraeg o A Magical Night Before Christmas, stori hudolus mewn lliw llawn ac ar ffurf mydr ac odl yn adrodd hanes ymweliad blynyddol Siôn Corn ar noswyl Nadolig i ddosbarthu anrhegion; i blant 3-7 oed.
Gwybodaeth Bellach:
Mae lluniau Ted Rand yn rhoi naws gartrefol a thraddodiadol i’r gân glasurol hon am gyffro Noswyl Nadolig.
Drwy grefft y lluniau lliwgar, mae’n dal ias y rhew a’r eira, golau’r lleuad, rhamant y ceirw ac ymddangsiad direidus Siôn Corn ei hun.
Llyfr i roi sêr yn llygaid y plant! Llyfr i roi llawer o bleser wrth ei rannu ar yr adeg arbennig hon o’r flwyddyn.
