Manylion a Disgrifiad y Llyfr | Book Details & Description
- ISBN: 9781845271237
- Awdur: William Selwyn
- Cyhoeddi Ebrill 2007
- Fformat: Clawr Caled, 218x268 mm, 159 tudalen
Casgliad o luniau a thestun ar themâu yr arlunydd, yn cynnwys rhagarweiniad gan Kyffin Williams.
Adolygiad Gwales
Yn y gyfrol hon ceir oriel o ddarluniau dyfrlliw o waith William Selwyn. Saif cyfrolau Kyffin Williams wrth wraidd poblogrwydd presennol y genre hwn, ac yn wir, ceir cyflwyniad gan Kyffin i’r casgliad presennol. Bu’r ddau arlunydd yn gyfeillion da, gan rannu arddangosfeydd yn Oriel Thackery yn Llundain. Yn ei nodiadau ei hun i’r darluniau, cydnabu William Selwyn ei ddyled i arlunydd enwocaf Cymru: ‘Mae Kyffin wedi bod yn ddylanwad mawr arna i yn y ffordd yr agorodd fy llygaid i weld gwerth cymeriadau a golygfeydd cefn gwlad.’
Mae’r gyfrol wedi’i rhannu yn ôl themâu – tirluniau, amaethwyr, portreadau, ac yn y blaen – ond mae arddull llyfn cyson yr arlunydd, a’r dylunwaith, yn uno’r cyfan. Yn wir, y mae undod y gyfrol yn ymylu ar yr undonog, weithiau, o ganlyniad i gysoni maint yr atgynhyrchiadau, beth bynnag oedd maint y darluniau gwreiddiol. Nid yw dylunwaith cywasgedig y capsiynau dwyieithog yn ddelfrydol ychwaith – ac mae’r materion hyn o bwys mewn llyfr celf.
Mewn cyflwyniad byr i bob thema, ac weithiau yn y capsiynau, mae’r arlunydd yn egluro arwyddocâd personol y pwnc, neu’n adrodd hanes ei ddarlunio. Mae ganddo ddull syml a gonest. Ni cheir yma ‘jargon’ y byd celf – rhinwedd y mae Kyffin a Daloni Metcalf yn tynnu sylw ato yn eu cyflwyniadau. Mae’r un agwedd ddiymhongar yn amlwg yn y darluniau. Yn sicr, mae gan William Selwyn ei arddull ei hun ond, ar yr un pryd, saif ei waith yn falch mewn traddodiad dyfrlliwio sydd yn ymestyn yn ôl i’r ddeunawfed ganrif. Daw'r hunanhyder i weithio yn y dull ceidwadol hwn, o bosibl, o’r ffaith fod gyrfa'r arlunydd wedi blodeuo ar ôl iddo ymddeol o’i waith dysgu – yn yr un modd â gyrfaoedd ei gyfoeswyr amlwg, Ogwyn Davies ac Aneirin Jones. Mae’r gyfrol hon yn dathlu aeddfedrwydd William Selwyn mewn ffordd gymwys a haeddiannol.
Peter Lord
