[neidio i'r prif gynnwys | skip to main content]

Y Freuddwyd - Cyfrol 1

Manylion a Disgrifiad y Llyfr | Book Details & Description

  • Awdur: Siân Lewis
  • Cyhoeddi Ebrill 2006
  • Darluniwyd gan James Field
  • Addas i oed 9-11 neu Cyfnod Allweddol 2
  • Fformat: Clawr Caled, 207x140 mm, 28 tudalen

Cyfrol mewn cyfres sy'n edrych ar wahanol gyfnodau/gefndiroedd o hanes Cymru ac yn cyflwyno stori yn seiliedig ar hynny; y mae'r stori hon yn ymwneud âg Owain Glyndŵr a'i hanes fel tywysog Cymru. Addas i ddarllenwyr 9-11 oed.

Adolygiad Gwales
Dyma’r llyfr cyntaf yn y gyfres newydd ‘Straeon Bywyd Cymru’, sy’n anelu at roi ‘cipolwg dychmygus ar fywydau plant fu’n rhan o ddigwyddiadau pwysig yn hanes Cymru’. Pwrpas addysgiadol sydd iddynt yn rhannol felly, ond rydym hefyd yn siŵr o straeon da ag iddynt gefndir cyffrous, a pha well stori i ddechrau’r gyfres nag un sydd wedi ei seilio ar hanes Owain Glyndŵr?

Stori Rhys a gawn ni yn y gyfrol hon – bachgen deg oed o Harlech sydd yn llawn uchelgais am gael ymuno â byddin Harri, brenin Lloegr. O dipyn i beth, fe ddaw’n amlwg ei fod ef a’i deulu yn byw dan amodau digon anodd, gyda deddfau yn gwasgu ar y Cymry a hwythau’n cael eu trin yn eilradd yn eu gwlad eu hunain. Does fawr o ryfedd fod Rhys yn breuddwydio am ddianc a chael byw bywyd moethus yn y castell nad oes dim croeso i Gymry rhwng ei furiau fel arfer.

Un diwrnod, a Rhys yn chwarae ar y mynydd, fe ddaw o hyd i ddyn dieithr yn cuddio mewn ogof, a sylweddoli ar unwaith fod hwn yn elyn i’r brenin. Dyma ei gyfle euraidd i ennill ffafr y Saeson, drwy fradychu’r dyn iddynt, ac ar ddiwedd y rhan honno o’r stori, rydym yn eithaf sicr mai dyna ei fwriad hefyd, er i’r ddau rannu sgwrs fer, lle y datgela’r dyn dieithr ei freuddwyd yntau i’r bachgen:

“Bydda i’n arwain byddin o Gymry a fydd yn cipio Harlech a phob castell arall,” meddai. “Byddwn ni’n gyrru’r estron o’n gwlad. Fy mreuddwyd i yw gweld Cymru’n wlad rydd lle medrwn ni reoli ein hunain yn ein hiaith ein hunain. Bydd gynnon ni eglwys Gymreig i’n ffrindiau’r mynachod a choleg i ti gael dysgu i fod yn ddyn doeth...”

Ni chawn wybod yn iawn beth a wnaeth Rhys tan yr olygfa olaf un, a Harlech erbyn hynny yn lle pur wahanol, gydag Owain Glyndŵr wedi meddiannu’r castell ac yn croesawu’r Cymry lleol yno.

Er i mi fwynhau darllen y stori, rhaid i mi gyfaddef fy mod yn teimlo ei bod yn disgyn rhwng dwy stôl braidd. Ar un llaw, mae’n anodd credu nad oedd Rhys na’i deulu erioed wedi clywed enw Owain Glyndŵr, ac yntau eisoes ar ffo ac yn byw ar herw yn eu hardal, ond, ar yr un pryd, fe deimlwn fod y stori ei hun yn dioddef gan fod cynifer o ffeithiau hanesyddol yn cael eu cyflwyno mewn gofod mor fychan. Mae hwn yn destun ar gyfer nofel lawer iawn hwy, mewn gwirionedd.

Argraff arall y mae’n anodd ei hosgoi yw bod y llyfr yn ymddangos braidd yn henffasiwn o ran ei ddiwyg. Tybed hefyd na fyddai clawr meddal wedi gwneud y tro i gyfres o lyfrau 28 tudalen yr un? Eto i gyd, mae’r llyfr yn llawn lluniau lliw trawiadol, ac mae’r testun yn ddigon darllenadwy.

Hawdd dychmygu y bydd athrawon yn arbennig yn croesawu’r gyfres newydd hon, sy’n bendant yn cyflawni’r bwriad o gyflwyno hanes Cymru i blant mewn ffordd fywiog a chofiadwy.

Gwen Gruffudd