[neidio i'r prif gynnwys | skip to main content]

Ymwelwyr, Yr (Cyfres Dal y Gannwyll)

Ar Sêl! | On Sale!

Prîs | Price: £1.00

Prīs Gwreiddiol | R.R.P. £3.99






Ychwanegu i fy Rhestr Fer
Add to My Wish List

Manylion a Disgrifiad y Llyfr | Book Details & Description

  • ISBN: 9780863816734
  • Awdur: Richard Foxhall
  • Cyhoeddi Awst 2001
  • Golygwyd gan Lyn Ebenezer
  • Fformat: Clawr Meddal, 174 tudalen

Hanes hynod ddifyr soseri hedegog ac UFOs a welwyd yng Nghymru ac mewn gwledydd eraill yn ystod yr 20fed ganrif, yn cyflwyno tystiolaeth helaeth llygad-dystion ac ymchwil fanwl a gwyddonol gan yr awdur, sydd ei hun yn llygad-dyst i oleuadau anesboniadwy yn yr awyr. 30 llun du-a-gwyn.

Adolygiad Gwales
Dyma’r gyfrol gyntaf yng nghyfres newydd Gwasg Carreg Gwalch, Dal y Gannwyll, ‘sy’n taflu ychydig o olau ar y twyll a’r dirgel,’ meddai’r broliant. Ceir amrywiaeth eang o destunau hynod dan olygyddiaeth gyffredinol Lyn Ebenezer, gan gynnwys llofruddiaethau amheus, yr ymgyrch losgi ac ysbrydion. Peth i’w groesawu yn y Gymraeg yw’r deunydd anghyffredin a difyr hwn.

Yn y llyfr hwn gan Richard Foxhall, y pwnc yw Unidentified Flying Objects neu UFOs. A thrwy gydol y testun defnyddir y termau Saesneg hyn. Bathwyd y term 'Hedbethau Annabyddedig' (dau air, wyth sillaf) yn ôl yn yr wythdegau, os nad cyn hynny, ac yng Ngeiriadur yr Academi ceir Gwrthrychau Hedegog Anhysbys (tri gair, naw sillaf). Pam defnyddio’r Saesneg, ys gwn i? Am ei fod yn haws i’w ddweud? Tri gair, naw sillaf sydd yn y Saesneg, hefyd. Am fod y term yn fwy cyfarwydd? Ddown ni ddim yn gyfarwydd â’r termau a’r geiriau Cymraeg oni ddefnyddiwn hwy.

Dyna’r bregeth drosodd. Mwynheais y llyfr yn fawr iawn. Mae’n arbennig o werthfawr fel cofnod o’r digwyddiadau pwysicaf yn hanes G.H.A yng Nghymru. Mae ymchwil yr awdur yn fanwl ac yn drylwyr.

Ein ‘hymwelwyr’ cyntaf, hyd y cofnodwyd, yw’r hyn a ddisgrifir gan Sieffre o Fynwy (tt 100-1), er bod Dr Brynley Roberts yn bwrw amheuaeth deg ar y dystiolaeth.

Beth am y gaer ledrithiol sy’n ymddangos ac y caethiwir Pryderi a Rhiannon ynddi (eu dwylo'n glynu wrth bethau fel pan geir sioc drydan) cyn diflannu, dim ond i ddod â’r ddau yn ôl eto ddwy flynedd yn ddiweddarach? Ond ffuglen yw’r Mabinogion, yn union fel y mae profiad Esecial yn freuddwyd. Peth peryglus yw dadansoddi hen dystiolaeth yn ôl ein goleuni ni heddiw.

Ond beth am Oleuadau Egryn? Yn fy llyfr Y Corff yn y Parc (Gwasg Carreg Gwalch, 1999) tynnais innau sylw at hanes rhyfedd Mary Jones a’i chymdogion yn ardal Egryn tua 1905. Fe welwyd y goleuadau nid yn unig gan Mary Jones ond gan lawer o bobl eraill. Disgrifiwyd y golau gan un tyst ‘megis llestr mawr’. Dyma’r un ddelwedd yn cael ei ddefnyddio yn y Gymraeg dros ddeugain mlynedd cyn i’r term Flying Saucer gael ei fathu yn sgil disgrifiad Kenneth Arnold o’r hyn a welodd yn 1947.

Hynod o ddiddorol a rhyfedd yw’r storïau am yr hyn a ddigwyddodd yn Llandrillo yn 1974, Broadhaven yn 1977 a phrofiad syfrdanol yr awdur ei hun. Rhaid prynu’r llyfr i ddarllen am yr hanesion hyn.

Braidd yn siomedig yw lluniau’r llyfr gan fod y rhan fwyaf yn ffugiadau gan artistiaid. Go brin fod neb yn derbyn lluniau Daniel Fry fel rhai dilys. Ond mae ’na ffotograffau enwog nad ydynt wedi cael eu hesbonio'n iawn: Trinidade 1958, Rouen 1954, a lluniau Paul Trent ym McMinnville 1950 yw’r unig ffotograffau na chafodd eu difrïo’n llwyr gan Bwyllgor Condon. Buasai un o’r ‘clasuron’ hyn wedi cyfoethogi’r llyfr.

Mae Richard Foxhall yn sôn am stori G.H.A. fwyaf adnabyddus y byd, bellach, sef digwyddiad Rosewell, 1947. Cyn yr wythdegau, prin iawn yw’r cyfeiriadau at Rosewell mewn llyfrau sy’n trafod G.H.A. Pam, ys gwn i? Maen nhw i gyd yn sôn am Adamski ac Arnold a Betty a Barney Hill. Y gwir amdani yw fod stori Rosewell wedi cael ei hail-greu a’i hestyn yn yr wythdegau ac ychwanegwyd ati yn ddiweddar ar ôl hynny. Stori yw hi sy’n dangos fod hanesion am G.H.A. yn tyfu ac yn datblygu yn union fel llên gwerin.

Mihangel Morgan