Manylion a Disgrifiad y Llyfr | Book Details & Description
- Awdur: Siân Lewis
- Cyhoeddi Ebrill 2006
- Darluniwyd gan James Field
- Addas i oed 9-11 neu Cyfnod Allweddol 2
- Fformat: Clawr Caled, 207x140 mm, 29 tudalen
Cyfrol mewn cyfres sy'n edrych ar wahanol gyfnodau/gefndiroedd o hanes Cymru ac yn cyflwyno stori yn seiliedig ar hynny; Cefndir y gyfrol hon yw'r mudo i Batagonia. Addas i ddarllenwyr 9-11 oed.
Adolygiad Gwales
Hanes yr ymfudo i Batagonia yn 1865 a gawn ni yn Yr Ateb Cywir, a chanolbwyntir ar stori teulu dychmygol o un o gymoedd glofaol De Cymru wrth iddynt gychwyn ar eu bywyd newydd.
Darlunnir gobaith a delfrydau’r fintai gyntaf a ymfudodd ar fwrdd y Mimosa, a hynny drwy gyfrwng profiadau’r plant, sydd wrth eu boddau'n cael eu difyrru gan Dafydd, y crydd. Mae Dafydd yn feistr ar osod posau digrif, a thri o’i hoff gwestiynau yw:
‘Pa wlad yw’r orau yn y byd?’
‘Pa wlad sy’n nefoedd ar y ddaear?’
‘Ble ydym ni’n mynd i sefydlu Cymru newydd, hardd a ffrwythlon?’
A’r ateb cywir bob tro yw ‘Patagonia’, wrth gwrs.
Cyferbynna hyn yn greulon â’r realiti sy’n eu haros wedi iddynt lanio yn y wlad anial, a buan y mae pawb yn cael eu dadrithio – pawb ond Gruff, y bachgen bach yn y stori, sy’n benderfynol o gadw breuddwyd ei arwr, Dafydd, yn fyw.
Stori obeithiol yw hon yn y pen draw, er nad yw’r awdur yn cilio rhag emosiynau fel tristwch, siom a galar. Mae’n stori bwerus, sy’n sicr o wneud argraff ar blant, a’u cyflwyno i agwedd ar hanes Cymru a fydd, o bosibl, yn newydd iddynt.
Mae’r arddull, ar y cyfan, yn ddigon darllenadwy, ond mae’n amlwg iddi fod yn dipyn o dasg i’r awdur geisio taro ar gydbwysedd rhwng ieithwedd y cyfnod ac iaith y byddai plant heddiw yn gyfarwydd â hi. Teimlaf fod y cydbwysedd hwn yn cael ei golli ar brydiau - yn yr adleisiau o araith Edwin Cynrig Roberts, er enghraifft, ac, yn anffodus, yn achos posau Dafydd. Eto i gyd, mae hyn yn cynnig blas ‘real’ iawn o’r cyfnod, a chyda rhywfaint o arweiniad, dylai plant allu ymdopi â’r rhannau hyn.
Gwen Gruffudd
